Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
 Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
 Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
 Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
 Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
 Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

10 Gorffennaf 2019

Annwyl Gadeiryddion y Pwyllgorau

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Yn ein cyfarfod ar 1 Mai 2019, cytunodd y Pwyllgor Cyllid ar y modd y byddai’n craffu ar y  gyllideb. Rwy'n ysgrifennu at holl Gadeiryddion y pwyllgorau pwnc i rannu ein syniadau ac i annog eich pwyllgorau i drafod sut y gallwch wneud eich rhan i sicrhau bod y gwaith o graffu ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth yn cael ei gwblhau yn y modd mwyaf cydlynol ac effeithiol bosibl.

Y prif feysydd craffu

Rydym wedi cytuno i barhau â'r un dull a ddilynwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol, sef bod y gwaith o graffu ar y gyllideb yn canolbwyntio ar y pedair egwyddor sy’n sail i waith craffu ariannol: fforddiadwyedd, blaenoriaethu, gwerth am arian a phroses. Dyma’r egwyddorion:

·         Fforddiadwyedd - edrych ar y darlun ehangach o ran cyfanswm y refeniw a’r gwariant, ac a oes cydbwysedd priodol;

·         Blaenoriaethu - a ellir cyfiawnhau'r modd y caiff y dyraniadau eu rhannu rhwng y sectorau/rhaglenni gwahanol ac a ydynt yn gydlynol;

·         Gwerth am arian - yn y bôn, a yw cyrff cyhoeddus yn gwario eu dyraniadau'n ddoeth – yn ddarabodus, yn effeithlon ac yn effeithiol (h.y.) canlyniadau;

·         Prosesau'r gyllideb - a ydynt yn effeithiol ac yn hygyrch ac a yw’r cynlluniau corfforaethol a chynlluniau’r gwasanaethau, a’r gwaith o reoli perfformiad a rheoli cyllid wedi’u hintegreiddio?

Yn dilyn cyfarfod i randdeiliaid yn Aberystwyth ar 27 Mehefin, rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar nifer o feysydd penodol yn ystod y gwaith craffu, sef:

-      Sut y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran Cyfradd Treth Incwm Cymru

-      Agwedd Llywodraeth Cymru tuag at wariant ataliol, a sut y caiff hyn ei  adlewyrchu yn y broses o ddyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau a lleihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar), yn enwedig o ran ariannu byrddau iechyd lleol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

-      Cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, arloesi a thrawsnewid gwasanaethau

-      Polisïau Llywodraeth Cymru i hybu twf economaidd, lleihau tlodi ac anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru effeithiau’r diwygiadau lles

-      Cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit a pharodrwydd ar gyfer Brexit

-      Sut y mae tystiolaeth yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran pennu blaenoriaethau a dyrannu'r gyllideb

-      Sut y mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn dylanwadu ar y broses o ddatblygu polisïau

-      Wrth gyhoeddi ‘argyfwng hinsawdd’, a yw’n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r her honno a darparu’r adnoddau angenrheidiol

Rydym yn eich annog i ganolbwyntio ar rai o'r meysydd hyn wrth graffu ar y gyllideb.

Ymgynghori ynghylch y gyllideb ddrafft

Yn ôl yr arfer, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar ran yr holl Bwyllgorau yn ystod toriad yr haf a bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â chi yn yr hydref er mwyn eich helpu i graffu ar y gyllideb ddrafft.

Amgaeaf grynodeb o’r sylwadau a glywsom yn y cyfarfod i randdeiliaid a gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid yn Aberystwyth cyn gosod y gyllideb. Mae’n bosibl y bydd y rhain o gymorth ichi pan fyddwch yn craffu ar y gyllideb.

Amserlen

Caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi ym mis Hydref fel arfer. Eleni, fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddai’n cynnal Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a gaiff ei gwblhau’r un pryd â Chyllideb y DU. Felly, ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth ynghylch faint o gyllid a gaiff gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2020-21 i seilio ei chyllideb arni. Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r Cyllidebau amlinellol a manwl drafft gyda’i gilydd ar 10 Rhagfyr 2019, a chyhoeddi’r Gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2020.

Fel y gwyddoch, newidiodd y darpariaethau’n ymwneud ag adroddiadau pwyllgorau polisi yn 2017, a gall pob pwyllgor baratoi ei adroddiad ei hun yn awr (os dymunwch), a gellir defnyddio'ch adroddiad fel dogfen ategol yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft. 

Os oes gennych gwestiynau am unrhyw agwedd ar broses y gyllideb ddrafft, mae croeso i chi gysylltu â mi neu Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor Cyllid, ar 0300 200 6372, neu Bethan.Davies@Cynulliad.Cymru.

 

Yn gywir

 

Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid